
12/06/2025
🐕🐈⬛Nodyn bach i’ch atgoffa am bwysigrwydd o frechu yn flynyddol. Mae’n gamsyniad cyffredin os yw eich ci neu gath wedi cael y cwrs cyntaf o frechiadau pan yn ifanc, eu bod wedi eu hamddiffyn am oes. NID yw hyn yn wir! Mi ddylai’r anifail gael brechiad bob blwyddyn i gadw’r system imiwnedd yn barod i ymladd haint.
🐕🐈⬛ A little reminder on the importance of keeping up to date with vaccines! It is a common misconception that if a dog or cat has had its first course of vaccines as a youngster that they are then protected for life. This is NOT the case! Boosters should be completed yearly to help keep the immune system primed to fight infection.
Leptospirosis can be spread in the urine of dogs, but also rats and cattle. It can also be picked up through infected water sources. There is no ongoing protection from an initial vaccine course for leptospirosis and so yearly boosters are essential. Animals infected with leptospirosis are also a risk to humans as we too can be infected.
Mae pobl yn aml yn meddwl os nad yw eu cŵn yn cymysgu gyda chŵn eraill, eu bod mewn llai o berygl, ond mewn gwirionedd mae risg yn o afiechydon megis Leptospirosis (Weil’s disease). Gall Leptospirosis ledaenu drwy pi pi cŵn, ond hefyd drwy lygod mawr a gwartheg. Mi ellir hefyd ei godi drwy ffynonellau dŵr heintiedig. Nid oes unrhyw amddiffyniad parhaus o gwrs brechu cychwynnol ar gyfer Leptospirosis ac felly mae brechu blynyddol yn hanfodol. Mae anifeiliaid sydd wedi’u heintio gyda Leptospirosis yn beryg i bobl, gan y gallwn ni hefyd cael ein heintio.
Mae brechiadau cathod yn cynnig amddiffyniad yn erbyn ffliw a’r firws ‘Feline Leukaemia’. Unwaith eto, mae cathod angen brechiad blynyddol i gynnal amddiffyniad blynyddol. Cathod gwryw sydd heb eu sbaddu sy’n fwyaf tebygol o ddal heintiau firaol gan eu bod yn tueddu i grwydo ymhellach ac ymladdd gyda cathod eraill.
Cat vaccinations offer protection against cat flu and also the feline leukaemia virus. Again, these require yearly boosters to maintain immune protection. Uncastrated males are the most likely to pick up viral infections as they stray further and fight with other cats.