
11/05/2025
Ddim di bod yn postio ar y tudalen yma llawer am sawl rheswm, prysyrdeb gwaith a bywyd yn fwyaf. Ond dyma prosiect dwi wedi bod yn gweithio ar dros y misoedd dwytha ma. Nes i drefnu gweithdy ar gyfer Parti Plu i cymydog, cyd-weithiwr a ffrind arbennig iawn. Oedd ei theulu a’i ffrindiau yn cael dewis sgwar ac addurno yn eu ffordd unigruw nhw tra yn Pant du Vineyard. Wedi mwynhau rhoid y sgwaria at eu gilydd i creu y flanced arbennig yma i Kim a Mathew. Gobeithio cewch blynyddoedd o mwynhad o’r flanced, tra’n cofio am y pobol arbennig oedd yn rhan o creu y flanced. A diolch mawr i chdi am y cyfle, y cefnogaeth ac y profiad.